• Hafan
  • Amdanom Ni
  • Mentora Ar-Iein
  • Cyrsiau
  • DYDDIADAU CYRSIAU
  • Adnoddau
  • Cysylltu â Ni
  • More
    • Hafan
    • Amdanom Ni
    • Mentora Ar-Iein
    • Cyrsiau
    • DYDDIADAU CYRSIAU
    • Adnoddau
    • Cysylltu â Ni
  • Hafan
  • Amdanom Ni
  • Mentora Ar-Iein
  • Cyrsiau
  • DYDDIADAU CYRSIAU
  • Adnoddau
  • Cysylltu â Ni

Gwellwch eich gwydnwch meddyliol gyda mentora ar-lein

Ymgynghoriad 15 munud dros y ffôn am ddim, cysylltwch â ni isod.

Mae ein cydnerthedd meddyliol ac iechyd cyffredinol yn cael eu herio'n fwy nag erioed. Mae llawer o bobl yn cael y newidiadau i fywyd bob dydd yn gynyddol heriol, wrth i ni geisio ymdopi â gweithdrefnau a systemau newydd. 

Dyna pam rydym wedi creu ein rhaglen fentora ar-lein unigryw newydd, i'ch helpu ymaddasu a symud ymlaen gydag ymdeimlad newydd o rymuso a gwydnwch meddyliol! 

Mae eich sesiwn fentora ar-lein yn cynnwys:

  • Cwblhau prawf seicometrig MTQ (AQR International).
  • Un sesiwn 75 munud 1-1 gydag un o'n tîm tra phrofiadol. 
  • Cynllun datblygiadol ac adroddiadau cam wrth gam ar gyfer eich datblygiad personol a phroffesiynol parhaus (DPP). 
  • Cefnogaeth ac atgyfeirio i sefydliadau perthnasol eraill.
  • £71.50 y sesiwn (Disgownt o 35%)


Mae'r pecyn hwn wedi'i ddylunio'n benodol i'ch galluogi i ddeall eich cydnerthedd meddyliol yn well a'i wella, gan alluogi chi i fyfyrio a chynllunio mewn ffordd gadarnhaol tuag at eich datblygiad proffesiynol a phersonol parhaus. 


Rydym yn rhoddi £5 i'n banc bwyd lleol ar gyfer pob sesiwn a archebir! Bydd hyn yn ein helpu i gefnogi rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed o fewn cymdeithas yn y cyfnod digynsail hwn. 

Cysylltu â Ni

Cysylltwch â ni i drefnu eich ymgynghoriad am ddim yma:

Ymholiadau cyffredinol Empower - Be The Change:

Ffoniwch: 07384815270 E-bost: rhiannon@empower-bethechange.org

Deall eich cydnerthedd meddyliol a pham mae'n bwysig.

Beth yw cydnerthedd meddyliol?

Cydnerthedd meddyliol yw anelu y tu hwnt i oroesi profiadau anodd. Mae'n ymwneud â defnyddio'r heriau hyn mewn ffordd bositif i ddysgu, datblygu a dyfalbarhau wrth gadw'n iach yn feddyliol. 

  • Mae gan unigolion cydnerth a hunanymwybodol lawer mwy o ddewis, cyfleoedd a rheolaeth ar y penderfyniadau maent yn eu gwneud.
  • Mae unigolion sydd â'r sgiliau i reoli a gwella'u cydnerthedd yn fwy cysylltiedig a phositif, yn perfformio hyd at 25% yn well, yn medru trin straen yn fwy effeithiol ac yn chwilio am gyfleoedd i gyflawni eu potensial.

  

Sut fyddwch chi ar eich ennill?

  • Prawf seicometrig gyda chefnogaeth 1-1. 
  • Dealltwriaeth well o'ch cydnerthedd eich hun a sut y gall hyn ddylanwadu ar eich nodau gyrfa a phersonol. 
  • Adnabod camau positif y gallwch eu cymryd i gryfhau a chynnal eich cydnerthedd meddyliol. 
  • Adeiladu ar eich datblygiad proffesiynol a phersonol parhaus. 


Yn y cyfamser mynnwch olwg ar ein hawgrymiadau gwych ar gyfer cyflawni cydnerthedd meddyliol: https://bit.ly/2xPGT6v

Tystebau


Hawlfraint © 2018 Empower-bethechange - Cedwir Pob Hawl.

  • India
  • Polisi Preifatrwydd